Croeso i Gyngor Cymuned Grysmwnt
Croeso i Grysmwnt
Croeso i wefan newydd Cyngor Cymuned Grysmwnt. Mae Cyngor Cymuned Grysmwnt yn cynnwys Grysmwnt, Llangatwg Lingoed a Llangua.
Mae Grysmwnt yn bentref hyfryd yn Sir Fynwy, yn agos iawn at y ffin â Lloegr, rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Dyffryn Gwy. Mae hon yn wefan i bobl leol yn ogystal ag ymwelwyr, a chaiff ei chynnal a’i rheoli gan Gyngor Cymuned Grysmwnt. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am bethau gwych ein pentref, o’n heglwys a’n castell sy’n dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif, i’n tafarn wych, The Angel, yn ogystal â’r grwpiau a’r digwyddiadau a’r bobl sy’n gwneud Grysmwnt yn lle mor arbennig.
															Llogi Lleoliad
Mae Neuadd y Dref Grysmwnt ar gael i’w logi, ac mae’n cynnig lle delfrydol ar gyfer digwyddiadau rheolaidd ac untro. P’un a ydych chi’n trefnu cyfarfod, digwyddiad cymunedol, neu ddathliad, mae Neuadd y Dref ar gael i’w logi yn y bore, y prynhawn, a fin nos. Gyda slotiau amser hyblyg a system archebu ar-lein gyfleus, nid yw sicrhau eich lleoliad erioed wedi bod cyn rhwydded.