Gwefan Newydd
18fed Mai 2017
Rydym yn falch iawn o lansio gwefan newydd Grosmont ar ôl sawl mis o ddatblygu. Daeth yn angenrheidiol i ni ddisodli grosmont.org oherwydd nad oedd gennym reolaeth dros lawer o’i chynnwys mwyach. Fodd bynnag, mae wedi ein gwasanaethu’n dda! Nod y wefan newydd yw rhannu gwybodaeth am ein cyfleusterau, ein gweithgareddau a’n hamgylchoedd yn ogystal â chadw pawb yn gyfredol â newyddion a digwyddiadau’r pentref. Gobeithiwn y byddwch yn ei chael hi’n ddefnyddiol. Cymerwch olwg o gwmpas ac rydym yn croesawu unrhyw sylwadau am hepgoriadau neu wallau amlwg, neu hyd yn oed unrhyw beth rydych chi’n meddwl ein bod wedi’i wneud yn dda! Rhowch wybod i ni trwy’r dudalen Cysylltu â Ni neu anfonwch e-bost atom yn uniongyrchol: grosmont.wales@gmail.com .