CYSTADLEUAETH Y PENTREF GORAU
29ain Mai 2018
Pentref Gorau Gwent
Diolch i bawb a ddaeth ddydd Gwener ac i’r holl gynigion eraill o gymorth.
Isod mae ychydig o ddyddiadau ychwanegol os gallwch chi helpu’r wythnos hon.
Dydd Mawrth o 2.30pm – Clirio o dan ac o amgylch neuadd y dref. (Jean, Jane M, Margie ac unrhyw un arall sydd eisiau helpu)
Dydd Mercher o 6.00pm – Tacluso cyffredinol ar hyd Stryd Fawr y pentref. (Dewch â rhawiau, siswrn bach a naill ai berfa neu fag gwastraff gardd brown)
Dydd Llun 4ydd Mehefin 2.00pm – Casglu sbwriel olaf. (Mae croeso i chi gasglu unrhyw sbwriel cyn hyn os gallwch chi)
Dyma rai o’r pethau y bydd y beirniaid yn eu hystyried:
Cyflwr gwrychoedd, ffensys a waliau
Ymddangosiad allanol eiddo masnachol
Ymddangosiad allanol tai allan, siediau a garejys
Glendid ymylon ffyrdd
Taclusder gerddi (fel y gwelir o’r briffordd)
Trefnusrwydd byrddau hysbysebion
Diolch i bawb