RHODDION GWAED
22 Awst 2018
Hoffai Gwasanaeth Gwaed Cymru eich hysbysu am sesiynau rhoi gwaed sydd ar ddod yng Nghanolfan Gymunedol The Bridges, Trefynwy.
“Mae angen i ni gynyddu nifer y rhoddwyr rydyn ni’n eu cael yn ein clinigau a gobeithio y bydd rhannu’r manylion yn ein helpu i gyflawni hyn.
Ar hyn o bryd dim ond 3% o’r boblogaeth sy’n rhoi gwaed ac mae angen holl gymorth a chefnogaeth y cymunedau rydyn ni’n eu mynychu i wneud y diwrnodau casglu yn llwyddiant. Mae angen i’r gwasanaeth gwaed gasglu 480 o unedau bob dydd i gyflenwi’r 19 Ysbyty yng Nghymru ac ar adegau gall hyn fod yn hynod heriol i ni.”