Clwb Garddio Grysmwnt a'r Cylch
Mae Clwb Garddio Grysmwnt a’r Cylch yn cyfarfod ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis (ac eithrio mis Ionawr, Gorffennaf ac Awst) fel arfer yn Neuadd y Dref Grysmwnt.
Mae ein cyfarfodydd yn dechrau am 7.30pm. Rydym yn croesawu aelodau newydd, felly dewch draw i ddigwyddiad neu os fyddai’n well gennych chi, cysylltwch â ni a chyflwynwch eich hun ymlaen llaw. Bydd yna groeso cynnes yn aros amdanoch chi beth bynnag wnewch chi!
Dyma’r costau aelodaeth: Ffi Flynyddol: Aelod sengl £15.00 Cwpl £25.00. Nid oes cost fynychu ar gyfer aelodau ond codir £5.00 ar westeion nad ydynt yn aelodau (ac eithrio digwyddiadau arbennig a fydd fel y’u hysbysebir).
Mae gennym siaradwr, ymweliad neu ddigwyddiad arall wedi’u trefnu ar gyfer pob cyfarfod, yn ogystal â raffl. Darperir te, coffi a bisgedi yn rhan olaf pob cyfarfod er mwyn rhoi amser i aelodau a gwesteion gymdeithasu a cheisio cyngor gan ein siaradwr neu ei gilydd.
Rydym hefyd yn cynhyrchu cylchlythyr misol i aelodau. I weld rhifynnau blaenorol, edrychwch isod yn ein hadran lawrlwythiadau.
Am wybodaeth ynghylch aelodaeth neu faterion eraill sy’n ymwneud â’r Clwb Garddio, cysylltwch â’n Cadeirydd, Alison, ar 07542 800815.
Gwybodaeth ynghylch y Clwb
Mae Clwb Garddio Grysmwnt a’r Cylch yn cyfarfod ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis (ac eithrio mis Ionawr, Gorffennaf ac Awst) fel arfer yn Neuadd y Dref Grysmwnt. Mae ein cyfarfodydd yn dechrau am 7.30pm. Rydym yn croesawu aelodau newydd, felly dewch draw i ddigwyddiad, neu os fyddai’n well gennych chi, cysylltwch a chyflwynwch eich hun ymlaen llaw. Bydd yna groeso cynnes yn aros amdanoch chi beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud! Dyma’r costau aelodaeth: Ffi Flynyddol: Aelod sengl £12.00 Cwpl £20.00. Nid oes cost fynychu ar gyfer aelodau ond codir £4.00 ar westeion nad ydynt yn aelodau (ac eithrio digwyddiadau arbennig a fydd fel y’u hysbysebir). Mae gennym siaradwr, ymweliad neu ddigwyddiad arall wedi’u trefnu ar gyfer pob cyfarfod, yn ogystal â raffl a bwrdd gwerthu Marchnad Garddwyr. Darperir te, coffi a bisgedi yn rhan olaf pob cyfarfod er mwyn rhoi amser i aelodau a gwesteion gymdeithasu a cheisio cyngor gan ein siaradwr neu ei gilydd.
Mae ein Marchnad Garddwyr yn rhoi cyfle i aelodau werthu eu cynnyrch eu hunain, fel llysiau dros ben, picls, wyau a phlanhigion. Mae 20% o unrhyw werthiannau yn mynd i gronfeydd y clwb. Rydym hefyd yn cynhyrchu cylchlythyr misol i aelodau. I weld rhifynnau blaenorol, edrychwch yn ein hadran lawrlwythiadau.
Rydym yn aelod o Ffederasiwn Cymdeithas Gerddi Gloucester www.gfgs.org.uk
Gerddi NGS www.ngs.org.uk