CYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIAETH EGLWYS
15 Gorffennaf 2019
Cynhelir y gystadleuaeth hon drwy Ecclesiastical. Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen Eglwys Sant Nicolas.
https://grosmont.wales/st-nicholas-church-2/st-nicholas-church/
“Eleni, mae ein cystadleuaeth eglwysi yn dathlu eglwysi ledled y DU drwy ffotograffiaeth. Fodd bynnag, mae ymhell o fod yn gystadleuaeth ffotograffiaeth!
Byddwn yn gofyn i bob eglwys anfon un llun atom yn dangos beth sy’n gwneud eu heglwys yn arbennig, boed wedi’i dynnu gan weithiwr proffesiynol neu aelod o’r gynulleidfa ar ffôn clyfar.
Rydyn ni’n gwybod bod pob eglwys, ei chynulleidfa, a’i chymuned yn unigryw. O’r gwirfoddolwr sy’n dal popeth at ei gilydd, i’r grwpiau plant sy’n bywiogi’r gwasanaethau Sul. O’r gerddi blodau hardd, i bensaernïaeth eithriadol adeilad eich eglwys. Nid oes dwy eglwys yr un fath, ac rydyn ni eisiau dathlu’r hyn sy’n gwneud eich eglwys yn arbennig.”