DEFAID WEDI'U RHWYGO
24 Gorffennaf 2018
Rydym wedi derbyn neges heno gan Rachel Price i ddweud bod un o’u defaid ifanc wedi cael ei tharo’n wael gan gi yn gynharach heddiw. Cafodd ei darganfod rhwng yr Eglwys a Nant Tresenny. Mae’r ddafad wedi marw ers hynny. Dywedodd Rachel, sy’n byw yn Fferm Ashwood ond yn rhentu’r tir pori, yn ei e-bost:
“Mae’n drueni na allaf atodi’r llun a gymerwyd gennym fel bod pobl yn sylweddoli canlyniadau peidio â gofalu am eu hanifeiliaid yn iawn a gadael iddynt grwydro’r wlad heb eu gwylio. A allwch chi atgoffa pobl i beidio â gadael i’w cŵn grwydro’n rhydd, os gwelwch yn dda”.