DIOLCH GAN Y BANCIAU BWYD

9fed Awst 2018

Dyma ddiolch i chi am eich rhodd garedig i Fanc Bwyd y Fenni yn ystod y cyfnod rhwng Ionawr a Mehefin 2018.

Mae Banc Bwyd y Fenni yn un o dros 400 o fanciau bwyd a redir gan Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n rhoi bwyd brys a chymorth i bobl mewn argyfwng ledled y DU, lle mae tair miliwn ar ddeg o bobl yn byw o dan y llinell dlodi. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ledled y DU, rhoddwyd 1,332,952 o gyflenwadau bwyd brys tridiau i bobl mewn argyfwng.

Yma yn y Fenni dros y chwe mis diwethaf mae 3690kg o fwyd a nwyddau ymolchi wedi cael eu dosbarthu i 513 o bobl gan gynnwys 1878 o blant.

Caiff eich rhodd ei chludo i’n warws yng Nghanolfan Gymunedol y Fenni lle caiff ei didoli, ei gwirio erbyn dyddiadau gwerthu ac yna ei storio neu ei bacio mewn bagiau yn barod i’w trosglwyddo i Ganolfan Cornerstone i’w dosbarthu i bobl mewn angen.

Mae unigolion yn mynd yn llwglyd bob dydd am amrywiaeth o resymau, o oedi wrth dderbyn budd-daliadau i dderbyn bil annisgwyl ar incwm isel.

Mae banciau bwyd yn partneru ag ystod eang o weithwyr gofal proffesiynol fel meddygon, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol i nodi pobl mewn argyfwng a rhoi taleb banc bwyd iddynt. Mae cleientiaid banc bwyd yn dod â’u taleb i’n canolfan yn Horsingtons Yard lle gellir ei hadbrynu am fwyd brys am dri diwrnod. Mae gwirfoddolwyr yn cwrdd â chleientiaid dros ddiod gynnes tra byddant yn aros i’w bagiau unigol gael eu paratoi. Maent yn gallu rhoi clust i wrando a’u cyfeirio at asiantaethau sydd â’r offer i ddatrys y broblem tymor hwy.

Mae eich rhodd garedig o 88.73 kg wedi cyfrannu at hyn a heb eich help ni fyddem yn gallu cefnogi ein cymuned fel hyn.