GEFEILLIO TOILEDAU

29ain Medi 2018

https://www.toilettwinning.org/

Casglon ni gyfanswm o £377.30 yn y gwasanaeth Diolchgarwch a’r cinio, ynghyd â rhoddion o £52.70 o’r bore coffi – cyfanswm o £430. Dyna tua 7 toiled y byddwn ni’n eu hariannu mewn mannau lle nad oes gan bobl y glanweithdra diogel, glân rydyn ni’n ei gymryd yn ganiataol.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, nid oes gan 2.3 biliwn o bobl rywle diogel a hylan i fynd i’r toiled.

Mae diffyg toiled yn gwneud menywod a merched yn darged ar gyfer ymosodiad rhywiol wrth iddyn nhw fynd i’r toiled yn yr awyr agored, yn hwyr yn y nos.

Mae bron i 1,000 o blant yn marw bob dydd o glefydau y gellir eu hatal sy’n gysylltiedig â dŵr budr a thoiledau anniogel.

Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd ein codi arian.