Marchnad Grysmwnt

Mae pentref Grysmwnt yn cynnal marchnad bob chwarter yng Nghorff yr hyfryd Eglwys Sant Nicolas, ar ail ddydd Sadwrn y mis, ac eithrio’r Nadolig sef trydydd dydd Sadwrn y mis. Cafodd y farchnad ei sefydlu ym mis Awst 2015. Gweledigaeth y farchnad yw creu lle cymunedol bywiog sy’n denu ac yn cefnogi pobl leol, cynhyrchwyr bwyd a phobl greadigol.

Ar ddiwrnod marchnad, allwch chi ddim methu’r bwrdd hir addurnedig sydd wedi’i osod yng nghanol Corff yr Eglwys, lle mae pobl yn ymgynnull i gael sgwrs gyda ffrindiau: hen a newydd, gwledda ar fwyd blasus y farchnad, cacennau ffres, yfed te a choffi neu ddarllen y papurau newydd a ddarperir. Mae’n brysur, yn union fel y byddech chi’n dychmygu marchnad yng Nghorff yr Eglwys gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Y gymuned gyda’i gilydd.

Mae Marchnad Grysmwnt yn cael ei chynnal gan wirfoddolwyr ac mae unrhyw elw a wneir yn cael ei ailfuddsoddi’n uniongyrchol yn y farchnad. Gydag amrywiaeth gynyddol o stondinau, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau, mae’r farchnad yn parhau i fynd o nerth i nerth.

Felly dewch draw i gefnogi’r farchnad hyfryd, unigryw a bywiog hon. Dewch i bori’r stondinau a mwynhau’r awyrgylch.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gysylltu â thîm marchnad Grysmwnt, cysylltwch drwy: grosmontmarket@hotmail.com . Mae yna ragor o wybodaeth ynghylch y farchnad ar dudalen Facebook y Farchnad: https://www.facebook.com/grosmontmarket ac Instagram: https://www.instagram.com/grosmontmarket/

Digwyddiadau ar y Gweill

Newyddion Diweddaraf