RHODDI GWAED – MYNWY
13eg Mai 2018
Hoffai Gwasanaeth Gwaed Cymru eich hysbysu am sesiynau rhoi gwaed sydd ar ddod yng Nghanolfan Gymunedol Bridges, Trefynwy ddydd Mercher.
“Ar hyn o bryd dim ond 3% o’r boblogaeth sy’n rhoi gwaed ac mae angen holl gymorth a chefnogaeth y cymunedau rydyn ni’n eu mynychu i wneud y diwrnodau casglu yn llwyddiant. Mae angen i’r gwasanaeth gwaed gasglu 480 o unedau bob dydd i gyflenwi’r 16 Ysbyty yng Nghymru ac ar adegau gall hyn fod yn hynod heriol i ni.”