RHYBUDD SGAM GAN HEDDLU GWENT
21ain Mehefin 2019
Anfonwyd 20 Mehefin 2019
Rhybudd gan y cyngor ynghylch sgam ad-daliad Treth y Cyngor
Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog trigolion i aros yn wyliadwrus ar ôl derbyn adroddiadau am e-byst digymell yn cynnig ad-daliadau Treth y Cyngor. Yn ôl y sôn, mae’r neges yn dweud wrth berchnogion tai fod ganddynt ad-daliad heb ei wneud ac yn eu hannog i glicio ar ddolen.
Mae tîm Refeniw Sir Fynwy yn cynghori nad gohebiaeth swyddogol y cyngor ydyw a dylai trigolion fod yn ofalus cyn darparu unrhyw fanylion i drydydd parti. Yn ddiweddar, bu’n rhaid i’r Cyngor gyhoeddi rhybuddion tebyg pan ddisgrifiodd trigolion dderbyn galwadau ffôn yn eu cynghori eu bod yn gymwys i gael ad-daliad ar eu bil treth gyngor.
Diolch am ddarllen a byddwch chi gyd yn aros yn seiberddiogel.
@gpcybercso