SYSTEM RHYBUDD PENCADLYS HEDDLU GWENT
12 Gorffennaf 2019
#RhybuddSgam – Neges Ffôn ‘Visa’
Mae galwadau’n cael eu derbyn gan breswylwyr gyda neges wedi’i recordio ymlaen llaw yn nodi – ‘Dyma Visa. Mae £600 ar fin gadael eich cyfrif. Pwyswch ‘1’ i siarad ag un o’n gweithredwyr’.
Sgam yw hwn. Os byddwch yn derbyn y galwad hon neu alwad debyg, peidiwch â phwyso 1 a rhoi’r alwad i lawr.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’ch banc gan ddefnyddio’ch dull dibynadwy eich hun.
Os ydych chi eisoes wedi ymateb i’r alwad hon ac wedi rhoi manylion personol neu ariannol i’r gweithredwr, cysylltwch â’ch banc i’w hysbysu.
Hefyd, rhowch wybod am y sgam hon i Action Fraud, y Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Dwyll a Throseddau Seiber ar 0300 123 2040.
https://www.actionfraud.police.uk/
Diolch am ddarllen a byddwch chi gyd yn aros yn seiberddiogel.
#CyberCSO